Hanes

Adeiladwyd Neuadd Goffa Llangain a’r Cylch yn 1963 ar gost o £7,000 (sydd yn cyfateb i £150,000 erbyn heddiw) ar dir a roddwyd gan Mr. Tom Roberts o Benycoed, ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ddydd Gwener 3 Ebrill 1964.

Dadorchuddiad y plac coffa sy’n cynnwys enwau’r rhai a fu farw yn y ddau Ryfel Byd gan Mrs May Davies, chwaer yr Is-gapten Willie Davies, Green Castle a fu farw yn 20oed o glwyfau a dderbyniwyd 23 Mawrth, 1918.

Cafodd yr adeilad ei ehangu a’i adnewyddu ar ddiwedd y 1990au i gynnwys mynediad cymedrol i’r llai abl diolch i grant gan Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol a chymwynaswyr eraill. Cafwyd cymorth grant hefyd i adeiladu estyniad storfa a systemau sain a goleuo.

Roedd y Neuadd yn cael ei defnyddio bob dydd yn y cyfnod Cyn-Covid, ac yn ganolbwynt canolog i’r gymuned. Cadwyd y drysau ar agor trwy gyfyngiadau Covid at wasanaeth y Swyddfa Bost gymunedol hanfodol, ddwywaith yr wythnos.

Bellach mae angen gwariant sylweddol i sicrhau cyfleuster sy’n cwrdd ag anghenion cymuned sy’n newid ac yn ehangu am 60 mlynedd a mwy eto.

Neuadd Goffa – Seremoni Agoriadol 1964

^
3ydd Ebrill, 1964

Agoriad Swyddogol y Neuadd Goffa ar Ddydd Gwener

Agoriad swyddogol y Neuadd gan yr Henadur T.Ll. Harries, MBE, YH., Pilroath. Yn
gwylio y mae’r Cyng. Dosbarth I.J. Williams (chwith) gyda Mr George Lewis a’i fab, Mr Roy Lewis o Messrs D. George Lewis, Contractwyr (dde).

^
1964

Dadorchuddiad Swyddogol o’r Gofeb

Mrs Margaret Davies, gynt o Gastell Moel a chwaer y diweddar Is-gorpral Willie Davies.

^
1964

Pwyllgor Rheoli’r Neuadd Goffa

Chwith i’r dde, rhes gefn: Tom Harries, Wynford Jones, Leslie John, David Jones, Eurig Griffiths, Henri Harries, Rhoslyn Morris; rhes ganol: Dick Yorath, Gwyn Walters, Tom Thomas, David Owen, Emrys Hesford, Sam Rees, Ernie Jones, Tom Harries, Brown Jones; rhes flaen: Islwyn Jones (Ysgrifennydd yr Eisteddfod), Ieuan Hobbs, Sally Bowen (Ysgrifenyddes Pwyllgor y Merched), Idwal Williams (Is-gadeirydd), T.Ll. Harries (Cadeirydd), Tom Williams (Trysorydd), Colin Lewis (Ysgrifennydd), Milly Jones (Cadeiryddes Pwyllgor y Merched), William Jones.

^
1964

Pwyllgor Merched y Neuadd Goffa

Chwith i’r dde, rhes gefn: Ida Hobbs, Catherine Williams, Deina Jones, Molly Jones, Eileen Jones, Dorothy Davies, Sally Jones, Eiry Thomas; rhes flaen: Irene Walters, Nancy John, Milly Jones (Cadeirydd), Sally Bowen, Mattie Jones.

^
1964

Arwerthiant Fferm Tanlanfach

Man geni a chartref Maggie Howells a hunodd yn 2008 yn 97 oed, sef yr hynaf o drigolion yr ardal yn y cyfnod diweddar.

^
1966

Sioe Arddwriaethol

Rhai aelodau o’r Pwyllgor Gwreiddiol Sioe Arddwriaeddol Llangain, 1966. Chwith i’r dde: Tom Thomas, Gwyn Walters, Idwal Williams, Dilwyn Jones, Linda Jones, Milly Jones, Willie Evans, Islwyn Jones.

^
1960au

Gwisg Ffansi Dydd Calan

Chwith i’r dde, rhes gefn: Haydn Williams, Aneurin Bowen, Tom Rogers, Minyrafon, Gwenllian Walters, ? , Wendy Vowles, Anthony Harries?; rhes ganol: Jill Thomas, Gillian Davies, Eleri Jones?, Rhoslyn Morris, Hefin Morris, Eleri Morris, Iona Morris; rhes flaen: ? , Clive Bignell, Wendy Bignell, Alan Davies, Michael Davies, Dorian Bowen, Colin Davies, David Davies.

^
1960au

Grŵp Bechgyn Llangain

Rhai bechgyn lleol o’r enw ‘The Bluebirds’ yn cynnwys Gareth Williams (cyn Is-bostfeistr) a Gwynfor Davies o Faesyrawel yn ymarfer yn Neuadd yr Eglwys (Neuadd Cain).

^
1967

Cangen Urdd Gobaith Cymru Ysgol Llangain

Chwith i’r dde: Peter Griffiths, Bronwen Morris, Jenkin Davies, Miss Marian Evans (athrawes), Sarah Morris, Raymond Smith, Keith Platt, Gillian Smith, John Morris, Ann Evans, Iona Morris, Wendy Bignell, Andrew Evans, Gillian Davies, Janet Morris, Delyth Jones, Robert Griffiths, Gwenllian Walters.

^
1969

Prawf Hyfedredd Beicio Ysgol Llangain

Chwith i’r dde: Mrs Mattie Jones, Yr Henadur/Alderman D. H. Davies, Y Cyng. Sir Ronnie John, Clive Bignell, Ann Evans, Michael Bowen, Andrea Bowen, David Davies, Gillian Davies, Raymond Smith, Gillian Smith, Michael Davies, Mrs Ronnie John, Margaret James, Mr Islwyn Jones (Prifathro), Arholwr/. (Gweler Ardwyn ger Capel Smyrna yn y cefndir (top ar y dde) a Sir Fôn yn y blaendir fel rhan o fap o Gymru a beintiwyd ar iard yr ysgol gan Mr Islwyn Jones, y Prifathro yn 1963).

^
1969

Carnifal Arwisgiad Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru

Chwith i dde: Mattie Jones, Vernon Bignell, Barbara Gould, Dewi Evans, Eddie John, Marina Bignell.

^
1970au

Swyddfa’r Post ym Minyrafon

Yn ardal y ‘Brook’, lle y bu am 60 mlynedd cyn symud i 1 Coedlan Coedmor yn y
1970au cynnar.

^
1977

Seremoni Plannu Coed Ysgol Llangain gyda Sefydliad y Merched

Mr D.J.Marks, Prifathro (chwith o’r rhes gefn), Y Cyng. Arthur Harries, CBE, YH, MRCVS, Pilroath, Llangain (canol chwith), Cyng.Sir lleol 1974 – 2001 a Chadeirydd Cyngor Sir Dyfed 1978-79.

^
1978-79

Gweithgor Adfer Eglwys Llangain

Chwith i’r dde: Les Davies, Ken Jones, John Davies, Elwyn Davies, Hugh Thomas, Harri Johnston, Parch.V.H. Jones (Ficer), Vincent Davies, Parch.Alun Howells, Ficer (Organydd), Arthur Thomas (Warden y Ficer), Jim Thomas & Danny Morris (Seiri Coed swyddogol), Y Gwir Barch. Eric Roberts, Arglwydd Esgob Tyddewi (canol), I.J. Williams (Warden y Bobl), Evan John Williams (Diacon Capel Smyrna), Robert Davies, Haydn Williams (Côr-feistr), Wyndham Thomas, Evan Jones, D. J. Marks (Prifathro), John Jones.

^
1979

Côr Eglwys Llangain (gyda rhai aelodau o Lanllwch) pan ailagorwyd yr Eglwys yn 1979

Chwith i’r dde: Neryff Davies, Eiry Davies, Meryl Jones, Parch. Victor
Jones (Ficer), ? Davies, Eleri Jones, Kathryn Thomas, Rhiannon Thomas, Helen Thomas, Julia Perkins, Arthur Thomas (Warden y Ficer), Helen Williams, Y Gwir
Barch. Eric Roberts, Arglwydd Esgob Tyddewi,(canol), Sian Griffiths, Donna Jones, Nicola James, I. J. Williams (Warden y Bobl), Richard Jones, Ieuan Davies, Roger Thomas, Robert Thomas, Berin Jones, Robert Davies, Leyton Davies, Robert Mathews, David Mathews, Haydn Williams (Côr-feistr), Carl Atkins.

^
1980au

Clwb Ieuenctid Llangain

Mrs Marilyn John, Arweinydd Ieuenctid (rhes gefn, olaf ar y dde).

^
1982

Y Rocwyr Pync yng Nhgarnifal 1982

Chwith i’r dde, rhes gefn: Geraint Davies, Hayley Evans, Robert Jones (baby), Gemma Jones, Julie Evans, Stuart Berry, Richard Thomas, Jayne Griffiths, Simon Evans, Ian Rowlands, Richard Griffiths; rhes flaen: Melaine Evans, Wendy Jones, Peter Evans, Geraint Davies (Brynderwen), Nicky Berry, Andrew Rowlands, Margaret Rowlands, Hazel Berry, Gareth Davies, Margaret Thomas.

^
1988

Sioe Arddwriaethol

^
1988

Pentref Taclusaf yn Nyfed

Tu allan i Bantydderwen, Mr Glyn Williams, Y Cyng.Haydn Williams, Y Cyng.Ellis Davies, Mrs Eira Williams, Mrs Margaret Jenkins.

^
1989

Agor y Cwrt Tennis

Ail o’r chwith i’r dde: Marilyn Davies, Gaynor Thomas, Gerald Williams (Sylwebydd Tennis y BBC), Gill Thomas, Dot Jones, Gary Thomas.

^
1992

Ras Hwyl Llangain

^
1994

Tim Pêl-droed Llangain

Chwith i’r dde, rhes gefn: Michael Sizer, Geraint Davies, Julian Jones, Jason Thomas, Robert Smith, Philip Mead, Neil Vizard, Keith Owen, Richard Jupp, Keith Lewis (Rheolwr); rhes flaen: Jamie Jones, Jeffrey Goldsmith, Steve Lee, Gary Bowen (Capten), Nicky Goldsmith, Simon Colvin, Matthew Lewis, Huw Smith

^
1997

Pen-blwydd Aur Sefydliad y Merched, Llangain/p>

^
1997

Dadurchuddio’r Panel Gwybodaeth

Cyng.John Jones, Cadeirydd Cyngor Cymuned. Testun hanesyddol gan Haydn Williams. Dyluniwyd a darluniwyd gan Sarah Lees o Landybie.

^
1999

Cinio Blynyddol Cyngor Cymuned Llangain ym Mhantydderwen

Chwith i’r dde, rhes gefn: Haydn Williams, Wyn Griffiths, Margaret Jenkins, Brian Rowlands, John Jones; rhes flaen : Mair Harries, Cyng. Sir Arthur Harries, Dr Peris Williams (Cyn Glerc, 1993-1999), Cyng.Terry Griffiths (Cadeirydd), Dawn Griffiths, Vena Williams.

^
2002

Y Gymdeithas Drafod Leol sef KLUIDS a’u tarian ac arni’r geiriau ‘Gair i’r Call’

Chwith i’r dde: Brian Evans, Brian Rowlands, Frank Evans (Archkluid*), Jorge Pejsak, Nel Rees, Terry Painter, Colin McDonald, Judith Oxborrow, Cled Davies, ?, Mary McDonald, Judith Wright, Tony Wyke.

* Yr Archkluid sef Frank Evans – ‘athrylith, athronydd a dinesydd neilltuol o Gymanwlad Gwledydd Prydain a fu farw yn 2006 yn 94 oed.

^
2003

Cynhyrchiad Dick Whittington gan Chwaraewyr Llangain

^
2004

Ailagoriad y Swyddfa Post yn y neuadd

Chwith i’r dde: Cllr. John Jones, (Cadeirydd, Cyngor Cymuned), Mrs Jeanette Curtis (Is-bostfeistres), Mr Gareth Davies, (Cyfarwyddwr Materion Cymraeg y Grŵp Post Brenhinol), Mr Ray Gravell (darlledwr Radio Cymru a chyn chwaraewr rygbi rhyngwladol), Mr Lyn Davies.

^
2009

Dydd Gŵyl Dewi Sant, Ysgol Llangain

Chwith i’r dde, rhes gefn: Elen Inkster, Amy Rand, Mia Beynon Thomas, Hannah Evans, Lauren Lewis, Sara Edwards; canol: Seranne Beynon Thomas, Sam Edwards, Sara Inkster, Christina Walters, Kelly Rand, Morgan Parker, Megan Davies; rhes flaen: Steffan Jones, Rhys Freeman, Megan Jones, Hayley Ings, Seirian Cunniffe-Garrard, Aimee Austin, Elin Yusuf, Jamie Ings, Owain Rees.

^
2013

Cwrdd Diolchgarwch Capel Smyrna

Darlun gan J.Towyn Jones, FRSA, Gweinidog (1976 – ).