Cyfansoddiad
Er bod geiriad y Cyfansoddiad sy’n dyddio nôl i 1964 i’w weld yn hen ffasiwn erbyn hyn, mae bwriadau ac amcanion y ddogfen wreiddiol yr un mor berthnasol heddiw a’r hyn oedden nhw drigain mlynedd yn ôl sef i:
Hyrwyddo buddiannau trigolion Llangain a’r cylch heb wahaniaethu o ran rhyw, rhywedd, hil na barn wleidyddol, grefyddol neu farn arall, trwy gysylltu’r trigolion hynny gyda’r awdurdodau lleol eraill, sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau eraill mewn ymdrech gyffredin i hyrwyddo addysg a darparu cyfleusterau er lles cymdeithasol ar gyfer adloniant a hamdden gyda’r nod o wella amodau byw trigolion y fro.