Hanes Neuadd Goffa Llangain
Adeiladwyd Neuadd Goffa Llangain a’r Cylch yn 1963 ar gost o £7,000 (sydd yn cyfateb i £150,000 erbyn heddiw) ar dir a roddwyd gan Mr. Tom Roberts o Benycoed, ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ddydd Gwener 3 Ebrill 1964.
Bellach mae angen gwariant sylweddol i sicrhau cyfleuster sy’n cwrdd ag anghenion cymuned sy’n newid ac yn ehangu am 60 mlynedd a mwy eto.
Y Neuadd Goffa
Dadorchuddiad y plac coffa sy’n cynnwys enwau’r rhai a fu farw yn y ddau Ryfel Byd gan Mrs May Davies, chwaer yr Is-gapten Willie Davies, Green Castle a fu farw yn 20oed o glwyfau a dderbyniwyd 23 Mawrth, 1918.
Cafodd yr adeilad ei ehangu a’i adnewyddu ar ddiwedd y 1990au i gynnwys mynediad cymedrol i’r llai abl diolch i grant gan Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol a chymwynaswyr eraill. Cafwyd cymorth grant hefyd i adeiladu estyniad storfa a systemau sain a goleuo.